Yr hyn mae’r rhieni’n ei ddweud
Mae’r staff yn gyfeillgar, yn ymorol am y plant, ac yn ymddangos bod ganddyn nhw berthynas glós hyfryd gyda fy mhlentyn. Mae staff hefyd yn ymddangos yn drefnus, yn ymlaciol, a dwi byth yn teimlo ar frys na dan draed wrth adael fy mhlentyn yno, sydd mor braf ar ôl profiad gwael mewn canolfan gofal dydd arall.
Roedd llawer o’r staff sy’n dal i weithio yn Tir na n-Og yn gofalu am fy mhlant hŷn. Mae fy mhlant hŷn yn parhau i elwa o’r sylfeini rhagorol a gawsant yn Tir na n-Og. Ni allwn ofyn am well darpariaeth i’m plant.
Mae’n ymddangos bod staff Tir na n-Og yn sicrhau’r cydbwysedd perffaith rhwng cymryd munud i siarad â chi, rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf, wrth barhau i flaenoriaethu gofalu am y plant. Mae pa mor drefnus a digynnwrf ydi’r feithrinfa wedi creu cymaint o argraff arnom.
Mae ein mab yn ffynnu yno, ac mae hynny oherwydd ymroddiad, gallu ac ymdrech y staff. Rydyn ni’n hoffi’r gweithgareddau amrywiol a strwythur y dydd. Mae yna ystod dda o deganau ac rydyn ni’n hoffi’r agwedd ddwyieithog.
Mae’r gwasanaeth yn rhagorol. Rydyn ni’n hapus iawn bod ein mab wedi bod mor ffodus i fynychu Tir Na nOg. Mae’n dal i edrych ymlaen yn fawr at fynd ac mae’n cael amser mor hyfryd yno
Staff a rheolwyr rhagorol, hawdd mynd atynt. Cogydd pwrpasol – bwydlen wych a chyfeillgar iawn. Cyfleusterau da a chyfle i chwarae/cerdded yn yr awyr agored.
Byddwn yn argymell Tir na n-Og yn fawr fel meithrinfa gofal dydd cyfeillgar ond proffesiynol