Ystafell Babis
Taith rithwir
Mae’r Ystafell Babanod ar gyfer plant hyd at 18 mis oed lle byddant yn derbyn y gofal mwyaf arbennig ar ddechrau eu bywydau bach. Mae’n cynnig awyrgylch o lonyddwch a distawrwydd sy’n gwneud y newid o’r cartref i’r Feithrinfa yn un hawdd a chysurus i rieni a babanod. Mae’r Ystafell Babanod yn le lliwgar a deniadol sy’n ysgogi’r babanod i chwarae ac ymchwilio yn annibynnol. Gall hyn gynnwys cerddoriaeth a chanu, gweithgareddau celf a chrefft megis peintio, gwneud marciau, chwarae rhydd a gludo ac yna’n cael eu harddangos ar waliau’r ystafell. Mae ystafell ar wahan yn cynnig profiadau sensori ac hefyd offer tywod a dwr sy’n datblygu sgiliau ymhellach. Mae ardal gardd y tu allan i’’r ystafell yn cynnig cyfleoedd iddynt ddatblygu eu sgiliau motor mawr, gan chwarae gyda’r offer mawr ac hefyd ymarfer eu cropian a cherdded. Byddwn yn mwynhau mynd am dro yn reolaidd yn yr awyr iach.
Mae ein holl staff wedi eu hyfforddi ac yn brofiadol i ofalu am fabanod a phlant ifanc ac yn barod i gynnig cyngor a chymorth gydag unrhyw newidiadau yn natblygiad eich plentyn. Rydym yn hybu babanod i ddechrau bwydo eu hunain ac yn croesawu rhieni i baratoi llaeth o’r fron er mwyn bwydo’ch baban tra yma. Ar ddiwedd sesiwn bydd person allweddol eich plentyn yn rhoi adborth ar eu diwrnod i chi, ynghyd ag unrhyw negeseuon. Bydd adroddiad dyddiol yn cael ei baratoi yn ysgrifenedig, gan nodi beth maent wedi ei fwyta, amseroedd cysgu a newid clytiau. Rydym hefyd yn defnyddio ap Classdojo i rannu lluniau a fideos gyda rhieni, a hefyd yn ffordd i gysylltu a staff yr ystafell yn uniongyrchol.


