Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

System Gweithiwr Allweddol

‘Mae plant yn dysgu i fod yn gryf ac yn annibynnol ar sail cydberthynas gariadus a sicr gyda’u rhieni a/neu berson allweddol.’

Cydberthynas Gadarnhaol, Cyfnod Sylfaen y Blynyddoedd Cynnar

Gweithio mewn partneriaeth gyda rhieni

Mae gweithiwr allweddol wedi ei ddynodi ar gyfer pob plentyn yn Nhir na n-Og. Bydd y Gweithiwr Allweddol yn helpu eich plentyn i ddod yn fwy cyfarwydd â’i amgylchiadau ac i deimlo’n hyderus ac yn ddiogel yno. Rydym yn credu mewn gweithio mewn partneriaeth gyda rhieni, a bydd Gweithiwr Allweddol eich plentyn yn gweithio’n agos gyda chi, yn sicrhau bod yr hyn a ddarparwn yn addas i anghenion penodol eich plentyn.

Bydd y Gweithiwr Allweddol yn rhoi adborth rheolaidd i chi, ac yn eich diweddaru ynglŷn â chynnydd eich plentyn. Mae’r Gweithiwr Allweddol yno hefyd fel y gallwch drosglwyddo unrhyw wybodaeth bwysig am eich plentyn neu newidiadau yn y cartref. Gallwch siarad â nhw pryd bynnag yr hoffech ynglŷn ag unrhyw faterion neu gwestiynau am les eich plentyn.

Arsylwi

Mae’r Gweithiwr Allweddol hefyd yn gyfrifol am arsylwi eich plentyn. Arsylwi yw’r enw ffurfiol a roddir ar un o’r agweddau pwysicaf ar arferion proffesiynol o ddydd i ddydd wrth weithio gyda phlant o bob oed. Dyma’r ffordd yr ydym yn dysgu am anghenion penodol plant unigol trwy edrych yn ofalus, gwrando a nodi gweithgareddau plentyn neu grŵp o blant.

Dim ond trwy arsylwi babanod a phlant yn ofalus a gwrando’n astud ar yr hyn sydd ganddynt i’w ddweud, y gallwn ddod i’w hadnabod yn iawn a sylwi wrth i’w galluoedd newid a datblygu. Mae arsylwi yn ein galluogi i wybod beth mae plentyn yn ei hoffi neu ddim yn hoffi a’i ymateb i wahanol sefyllfaoedd; er enghraifft trefn gofal neu bobl newydd. Gallwn ddod i wybod pa brofiadau, trefniadau neu weithgareddau mae plentyn i weld yn eu mwynhau neu’n eu gweld yn anodd ac unrhyw beth sy’n eu gwneud yn bryderus.

Mae’r sylwadau am eich plentyn yn cael eu cadw’n gyfrinachol. Rydym yn rhannu’r sylwadau gyda chi ar lafar bob dydd ac mae cyfle i chi hefyd eistedd gyda Gweithiwr Allweddol eich plentyn i drafod datblygiad eich plentyn yn fwy manwl. Ym mhecyn arsylwi eich plentyn bydd samplau o waith, lluniau, peintiadau, ffotograffau, sylwadau wrth arsylwi a sylwadau gan Weithiwr Allweddol eich plentyn.

Site footer