Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Ystafell Chwarae a’r Dosbarth

Taith rithwir

Mae’r Ystafell Chwarae a’r Dosbarth yn ystafelloedd hwyliog, golau a saff wedi eu cynllunio i blant ddysgu trwy chwarae. Mae’r Dosbarth yn ymgymryd fframwaith Cyfnod Sylfaen Blynyddoedd Cynnar y Llywodraeth, sydd hefyd yn darparu 10 awr o addysg am ddim i blant cymwys. ‘Rydym hefyd yn cynnig 30 awr o addysg am ddim gyda’r Cynllun Gofal Plant, os yw’r rhieni yn gymwys. Mae’r ddwy ystafell yma yn cynnig gwahanol brofiadau dysgu cyffrous, a arweinir gan y plant, i’w helpu i ddatblygu ymhob maes dysgu. Mae gweithgareddau crefft, gemau adeiladu, chwarae byd bach, chwarae rôl, llyfrau, tywod, dŵr, gwneud marciau, chwarae clai, chwarae stomplyd a llawer mwy, bob amser allan ar gael i’r plant. Rydym bob amser yn ceisio annog y plant i ddewis dros eu hunain, i feddwl a dysgu’n annibynnol, a chredwn fod gan bob plentyn yr hawl i wneud eu dewisiadau eu hunain.

Chwarae tu allan

Rydym hefyd yn mwynhau manteision o le awyr agored allan gwych sy’n cael ei ddefnyddio bob cyfle gan y ddwy ystafell, gyda’r Dosbarth wedi eu ehangu i’r ardal allan yn ôl gofynion y Blynyddoedd Cynnar. Beiciau, coetsis, garddio, hela pryfaid, paentio, chwarae yn y dŵr a’r tywod, neidio mewn pyllau dŵr, dringo ac adeiladu cuddfan - dyma rai o’r gweithgareddau sydd gennym yn yr awyr agored!

Byddwn hefyd yn mynd allan o gwmpas yr ardal yn mwynhau ein cyfleusterau lleol fel y parc a’r olygfa brydferth o’n cwmpas. ‘Rydym yn cwmpasu ystod eang o weithgareddau gan adeiladu ar wybodaeth, profiadau a diddordebau’r plant a’u hymestyn a datblygu eu hunan-barch a’u hyder yn eu gallu i ddysgu. Rydym yn gwerthuso’r cynlluniau ac yn eu hadolygu’n rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni anghenion pob plentyn unigol. Rydym yn ymfalchïo ein bod yn cynnig y gofal gorau ac addysg o ansawdd uchel i’r plant.

Site footer