Bwyta’n iach
Yn Tir na n-Og, rydym wedi ymrwymo i ddarparu diet cytbwys er mwyn helpu i ddatblygu iechyd, twf a lles y plant.
Mae ein cogydd hyfforddedig yn coginio pob pryd gan ddefnyddio cynhwysion ffres a thrwy gadw at ganllawiau bwyta'n iach Llywodraeth Cymru. Rydym hefyd yn falch iawn o fod wedi cyflawni dyfarniad Gradd 5 gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd– sef yr achrediad uchaf posibl.
Rydym yn credu mewn meithrin meddyliau a chyrff plant, a dyna pam ein bod yn cyfyngu ar y defnydd o siwgr, halen ac ychwanegion artiffisial. Mae ffrwythau/iogwrt ffres ar gael bob amser yn lle pwdin, ac rydym yn annog y plant i yfed llaeth a dŵr trwy gydol y dydd.
Mae'r holl fyrbrydau/prydau a ddarperir yn Tir na n-Og wedi'u cynnwys yn y ffioedd.
Gofynion dietegol arbennig
Rydym yn darparu ar gyfer unrhyw ofynion dietegol arbennig ac yn dilyn rhaglenni diddyfnu yn unol â dymuniadau rhieni a chanllawiau’r Awdurdod Iechyd.