Ein datganiad o genhadaeth a nodau
Plant:
- Darparu amgylchedd heriol a chefnogol i ysgogi, cynnal a datblygu meddwl chwilfrydig bywiog.
- Annog pob plentyn i gyflawni ei wir botensial a datblygu i fod yn ddysgwr annibynnol sy’n gwerthfawrogi dysgu gydag eraill ac oddi wrth bobl eraill, hynny yw, bod ag agwedd gadarnhaol tuag at ddysgu gydol oes.
- Gwerthfawrogi dyfalbarhad, mentergarwch ac annibyniaeth mewn perthynas â meddwl a gweithredu yn ogystal â gweithio ar y cyd â phobl eraill.
- Datblygu mewn plant synnwyr o werthoedd moesol a all fod yn fframwaith ar gyfer ymdeimlad o’u hunan werth a’u perthynas gydag eraill, fel y gall plant fod yn aelodau cyfrifol o gymdeithas.
- Datblygu yn y plant agwedd gadarnhaol tuag atynt eu hunain ac eraill gydag ymdeimlad cryf o hunan barch. Hefyd datblygu ymdeimlad o barch tuag at eiddo, syniadau a chredoau pobl eraill waeth beth bo eu gender, hil, anabledd neu gyflawniad academaidd, ac yn y blaen.
- Gwerthfawrogi cyflawniadau pobl, eu methiannau a’u dyheadau.
- Datblygu agweddau cadarnhaol tuag at yr amgylchedd a gofalu amdano.
Y Cwricwlwm:
Cynnig cwricwlwm eang i hwyluso derbyn gwybodaeth, hyrwyddo mwynhau dysgu a darparu gwybodaeth a sgiliau fydd yn arfogi plant ar gyfer gwaith a hamdden fel eu bod yn aelodau gweithredol, hyderus a chyfrifol mewn cymdeithas sy’n datblygu’n gyflym.
Y Gymuned:
- Datblygu cymuned yn y Ganolfan sy’n gwerthfawrogi pob aelod yn gyfartal, sy’n gyfiawn ac yn annog gonestrwydd a pharch a chonsyrn tuag at bobl eraill
- Meithrin perthynas agos rhwng y Ganolfan, cartrefi’r plant a’r gymuned leol.
Mae’r nodau hyn yn sail i gynlluniau gwaith, a nodau a pholisïau amrywiol y Ganolfan, er enghraifft:
- cyfle cyfartal, gwahaniaethu, amlddiwylliannol a gender;
- ymateb i waith y plant, cydgysylltu gyda’r rhieni a’r gymuned;
- ymddygiad;
- iechyd a diogelwch;
- asesu;
- hyfforddiant ac absenoldeb gofalwyr.
Trwy weithredu’r polisïau hyn a pholisïau eraill, cynlluniau gwaith, nodau ac amcanion y cwricwlwm, gellir rhoi nodau’r Ganolfan ar waith.