Croeso i Tir na n-Og: Canolfan Gofal Dydd ac Ymchwil i Blant
Ynglŷn â ni
Mae Tir na n-Og wedi bod yn cynnig gofal plant ac addysg o safon eithriadol o uchel dros 30 mlynedd. Fel rhan o Brifysgol Bangor rydym wedi adeiladu enw da fel darparwyr arloesol a phroffesiynol sy’n darparu gofal plant preifat o ansawdd uchel.
Mae ein Canolfan Gofal Dydd ac Ymchwil i Blant, ar gyfer babanod o 3 mis i phlant 4 oed, yn darparu amgylchedd diogel, hapus ac ysgogol fel y gall plant fod yn rhydd i archwilio, dysgu a chwarae yng ngofal staff profiadol, cymwys a brwdfrydig.
Yn Nhir na n-Og rydym o’r farn bod profiad plant yn eu blynyddoedd cynnar yn cael effaith fawr ar eu dyfodol. Mae Tir na n-Og bob amser yn teimlo’n falch ac yn freintiedig i gael bod yn rhan o hyn ac yn ymdrechu i weithio’n agos â rhieni i greu’r dechrau gorau posibl ym mywyd pob plentyn.