Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Cyfnod Sylfaen y Blynyddoedd Cynnar

Education is changing so that we can prepare children better for a changing world. There are four

Mae addysg yn newid fel y gallwn baratoi plant yn well ar gyfer byd sy'n newid. Mae pedwar diben a fydd yn sylfaen i bopeth y mae plant yn ei ddysgu. Bydd pob plentyn a pherson ifanc yn cael cymorth i fod yn:

1.Dysgwyr uchelgeisiol, galluog sy'n barod i ddysgu gydol eu hoes

2.Cyfranwyr mentrus, creadigol sy'n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith

3.Dinasyddion moesegol, gwybodus sy'n barod i gymryd rhan yng Nghymru a'r byd

4.Unigolion iach, hyderus sy'n barod i fyw bywydau boddhaus fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas

 Rydym yn mynd ati i gefnogi’r holl blant sy’n mynychu’r Ganolfan Gofal Dydd fel eu bod yn gwireddu eu posibiliadau i’r eithaf o fewn eu galluoedd unigol. Cedwir cofnod personol ar ddatblygiad pob plentyn, mewn llyfr sgrap, gan ddangos eu galluoedd, eu cynnydd, eu diddordebau a meysydd sy’n gofyn am fwy o gymorth gan staff neu rieni. Rydym yn cydnabod bod plant yn dysgu mewn ffyrdd gwahanol ac ar gyflymdra gwahanol. 

Mae’r staff yn ymwybodol iawn o bwysigrwydd amgylchedd chwarae cadarnhaol ar gyfer y plentyn, lle mae cynlluniau’r staff ar gyfer profiadau dysgu wedi’u creu er mwyn sicrhau y caiff plant, cyn belled ag y bo hynny’n ymarferol, gyfle cyfartal, a bod amrywiaeth yn rhywbeth i’w ddathlu.

Rydym yn cynnal cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen a bennwyd gan Estyn, i gynnal a gwella dysg a datblygiad plant yn gyfannol trwy weithgareddau sy’n seiliedig ar chwarae. Rydym yn edrych ar bob agwedd ar ddysgu a datblygiad, ac yn sicrhau ein bod yn cynnal dull hyblyg sy’n ymateb yn sydyn i anghenion plant o ran dysgu a datblygu.

Mae Fframwaith y Cyfnod Sylfaen ar gyfer dysgu Plant 3 i 7 oed yng Nghymru (LlCC, 2008d) hefyd yn cynnig llawer o gyfleoedd i ddatblygu Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang (ADCD). Mae'n annog dysgu arbrofol a chwarae dan arweiniad cydweithredol y plant ac yn rhoi pwyslais ar ddatblygiad holistig plant a'u medrau ar draws y cwricwlwm.

Y chwe maes dysgu ‘Dewch i ni ddechrau – cwricwlwm newydd yng Nghymru’ yw: 

  1. Y Celfyddydau Mynegiannol
  2. Iechyd a Lles
  3. Y Dyniaethau
  4. Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
  5. Mathemateg a Rhifedd
  6. Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Mae amgylcheddau dan do ac awyr agored sy’n llawn hwyl, yn gyffrous, yn ysgogol ac yn ddiogel, yn hybu datblygiad plant a chwilfrydedd naturiol i archwilio a dysgu drwy brofiadau uniongyrchol. Bydd amgylchedd Tir na n-Og yn hybu sgiliau darganfod ac annibyniaeth a rhoi mwy o bwyslais ar ddefnyddio’r amgylchedd awyr agored fel adnodd ar gyfer dysgu plant. 

Byddwn yn sicrhau fod yr holl staff yn deall sut mae plant yn datblygu, a byddwn yn cynllunio cwricwlwm priodol sy'n cymryd anghenion datblygiadol plant i ystyriaeth a'r sgiliau y mae arnynt eu hangen i dyfu i ddod yn ddysgwyr hyderus. Cymerir i ystyriaeth hefyd rwystrau i chwarae, i ddysgu ac i gymryd rhan a achosir gan anawsterau corfforol, synhwyraidd, cyfathrebu neu ddysgu. Bydd pwysigrwydd datblygiad a lles emosiynol hefyd yn cael ei gydnabod.

Site footer