Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Ystafell Plant Bach

Taith rithwir

Mae Ystafell Plant Bach ar gyfer plant hyd at dwy a hanner. Mae’n awyrgylch hapus, diogel a hwyliog sy’n ysgogi’r plant i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau.
Yn yr oedran yma, bydd plant bach wrth eu bodda yn ymchwilio, ymholi a chwestiynu’r byd o’u cwmpas. I’r diben hyn rydym yn cynnig llawer o weithgareddau ymarferol sy’n datblygu eu chwilfrydedd megis peintio, chwarae tywod a dwr, gwneud marciau, chwarae clai a choginio i ddatblygu eu creadigrwydd.
Byddwn yn arddangos (gyda chaniatad) lluniau o’r plant wrthi’n cymryd rhan yn y gweithgareddau ar waliau’r ystafell ac yn y coridor. Byddwn hefyd yn eu rhannu gyda rhieni ar ap Classdojo.

Byddwn yn gwneud yn fawr o’r ardal tu allan yn reolaidd, gan ddefnyddio’r offer oed-addas i ddatblygu sgiliau motor mawr. Mae ardaloedd sensori y tu allan hefyd, megis y blwch tywod a’r ardal ty bach.

Ar ddiwedd sesiwn bydd aelod o staff yr ystafell ar gael i drafod diwrnod wich plentyn gyda chi, ac i gynnig unrhyw ddiweddariad ar eu datblygiad a’u cynnydd. Bydd adroddiad dyddiol yn cael ei baratoi yn ysgrifenedig, gan nodi beth maent wedi ei fwyta, amseroedd cysgu a newid clytiau. Rydym hefyd yn defnyddio ap Classdojo i rannu lluniau a fideos gyda rhieni, a hefyd yn ffordd i gysylltu a staff yr ystafell yn uniongyrchol.  

Site footer