Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Ystafell Chwarae a’r Dosbarth

Taith rithwir

Mae’r Ystafell Chwarae yn le hwyliog, deniadol a diogel sydd wedi ei greu er mwyn i’r plant ddysgu drwy chwarae. Mae’n hwyluso Cyfnod Sylfaen Llywodraeth Cymru i gynnig 10 awr o addysg am ddim i’r plant sy’n gymwys. Rydym hefyd yn cynnig 30 awr am ddim drwy’r cynllun Gofal Plant di-dreth, cyn belled a fod y rieni’n ateb y gofynion. Mae’r ystafell yn cynnig gwahanol brofiadau diddorol ac ysgogol i’r plant, a fydd yn datblygu nifer o feysydd dysgu. Bydd gweithgareddau celf a chrefft, adeiladu, byd bach, chwarae rol, llyfrau, tywod, dwr, gwneud marciau, clai a llawer iawn mwy pob amser ar gael i’r plant. Gan fod cynllunio yn y foment yn digwydd, y plant fydd yn gwneud y penderfyniadau a dewis dros eu hunain.

Byddwn hefyd yn mwynhau gwneud y mwyaf o’r ardal tu allan mor aml a phosib. Mae beiciau, sgwteri, offer garddio, pramiau, hela trychfilod, tywod a dwr, dringo a llithro yn rhai o’r adnoddau yn ychydig o’r gweithgareddau yn yr ardal yma.
Byddwn yn manteisio ar yr ardal leol o’n cwmpas hefyd, gan fynd am dro i ymchwilio’r byd natur a mwynhau’r awyr iach.

Mae ystod eang o’n gweithgareddau yn adeiladu ar ac yn datblygu sgiliau blaenorol, profiadau a didordebau’r plant. Ymfalchiwn yn y gofal roddwyd i’r plant tra yma yn ogystal a safon uchel o addysg.

Rydym yn defnyddio ap Classdojo i rannu lluniau a fideos gyda rhieni ac yn ffordd o fedru cysylltu’n uniongyrchol gyda staff yr ystafell.

Site footer